Hanes India Llywiogo
Hanes IndiaHanes Asia
IndiaAfon IndusGwareiddiad Dyffryn IndusCyfnod FedigHindwaethMahajanapadas3 CCYmerodraeth MauryaAshoka Fawr3gYmerodraeth y Gupta12gIslamaiddSwltaniaeth DelhiYmerodraeth y MughalAkbar Mawr15561605Ymerodraeth Vijayanagara17ed18gYmerodraeth Maratha1856Gwrthryfel India 1857Ymerodraeth Brydeinig20gMahatma Gandhi15 Awst1947PacistanJawaharlal Nehru26 Ionawr1950Gweriniaeth Pobl Tsieina196231 Hydref1984Indira GandhiSikhRajiv Gandhi19912004Plaid y GyngresManmohan Singh
Hanes India
Jump to navigation
Jump to search
Mae hanes India yn dechrau gyda dechreuad sefydliadau parhaol tua 9,000 o flynyddoedd yn ôl yn y diriogaeth a ddaeth yn India yn ddiweddarach. Yn yr ardal o amgylch Afon Indus, datblygodd rhain i greu Gwareiddiad Dyffryn Indus tua 3300 CC.; un o'r gwareiddiadau cynharaf yn hanes dynoliaeth. Dilynwyd y cyfnod yma gan y Cyfnod Fedig, pan osodwyd seiliau crefydd Hindwaeth. O tua 550 CC. sefydlwyd nifer o deyrnasoedd a elwid y Mahajanapadas ar draws y wlad.
Yn y 3 CC, roedd India a rhannau eraill o dde Asia yn rhan o Ymerodraeth Maurya dan Ashoka Fawr. O tua 180 CC bu nifer o ymosodiadau ac ymfudiadau o'r gogledd. O'r 3g OC sefydlwyd Ymerodraeth y Gupta.
O'r 12g ymlaen, daeth gogledd India gan ddylanwad rheolwyr Islamaidd, yn wreiddiol o Ganolbarth Asia; yn gyntaf Swltaniaeth Delhi, ac yn ddiweddarach Ymerodraeth y Mughal. Cyrhaeddodd Ymerodraeth y Mughal ei hanterth yn ystod teyrnasiad Akbar Mawr
o 1556 hyd 1605. Yn ne India, roedd nifer o deyrnasoedd brodorol, megis Ymerodraeth Vijayanagara. Ganychodd pwer y Mughal yn y 17ed a'r 18g, a daeth Ymerodraeth Maratha yn bwerus. Yn ystod y 18g, dechreuodd nifer o wledydd Ewropeaidd sefydlu tiriogaethau, ac erbyn 1856, roedd y rhan fwyaf o India yng ngafael y British East India Company.
Y flwyddyn wedyn bu gwrthryfel ar raddfa fawr, Gwrthryfel India 1857. Cafodd y gwrthryfelwyr gryn lwyddiant at y cychwyn, ond yn y diwedd gorchfygwyd hwy gan y fyddin Brydeinig. Daeth India'n rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig.
Dechreuodd mudiad cenedlaethol ym mlynyddoedd cynnar yr 20g, ac yn y 1920au a'r 1930au bu cyfres o brotestiadau di-drais dan arweniad Mahatma Gandhi. Ar 15 Awst 1947, daeth India yn wlad annibynnol, ond daeth rhan o'i thiriogaeth yn wlad Pacistan. Jawaharlal Nehru oedd y Prif Weinidog cyntaf. Dair blynedd yn ddiweddarach, ar 26 Ionawr 1950, daeth India yn weriniaeth.
Ers hynny, bu rhyfel a Gweriniaeth Pobl Tsieina yn 1962 ynghylch y ffîn yn y gogledd-ddwyrain, a bu tri rhyfel yn erbyn Pacistan, yn 1947, 1965 a 1971. Yn 1974, arbrofodd India fom atomig, gydag arbrofion pellach yn 1998. Ar 31 Hydref 1984 llofruddiwyd y Prif Weinidog Indira Gandhi gan aelodau o'i gwarchodlu Sikh. Cymerodd ei mab hynaf Rajiv Gandhi yr awennau. Ers newidiadau economaidd yn 1991, mae economi India wedi tyfu'n gyflym, ac o ganlyniad mae dylanwad rhyngwladol y wlad wedi cynyddu.
Yn etholiad cyffredinol Mai 2004, enillodd cynghrair o bleidiau dan arweiniad Plaid y Gyngres fwyafrif, a daeth Manmohan Singh yn Brif Weinidog.
|
Categorïau:
- Hanes India
- Hanes Asia
(window.RLQ=window.RLQ||[]).push(function()mw.config.set("wgPageParseReport":"limitreport":"cputime":"0.200","walltime":"0.281","ppvisitednodes":"value":15275,"limit":1000000,"ppgeneratednodes":"value":0,"limit":1500000,"postexpandincludesize":"value":34168,"limit":2097152,"templateargumentsize":"value":35398,"limit":2097152,"expansiondepth":"value":10,"limit":40,"expensivefunctioncount":"value":3,"limit":500,"unstrip-depth":"value":0,"limit":20,"unstrip-size":"value":0,"limit":5000000,"entityaccesscount":"value":0,"limit":400,"timingprofile":["100.00% 208.629 1 Nodyn:Asia","100.00% 208.629 1 -total"," 93.73% 195.552 1 Nodyn:Blwch_llywio"," 66.62% 138.985 101 Nodyn:ISO-gwlad"," 3.11% 6.486 52 Nodyn:·a"," 2.73% 5.691 9 Nodyn:Dimamlapio"," 2.39% 4.985 1 Nodyn:Bar_llywio"," 1.36% 2.830 16 Nodyn:Uwchysgrif-fach"," 1.30% 2.721 9 Nodyn:Gostwng"," 1.26% 2.631 3 Nodyn:Cychwyn_dimamlapio"],"cachereport":"origin":"mw1270","timestamp":"20190409143516","ttl":2592000,"transientcontent":false);mw.config.set("wgBackendResponseTime":420,"wgHostname":"mw1270"););